Bu farw Hal Blaine, cerddor a drymiwr a ymddangosodd ar recordiau gan Frank Sinatra, Elvis Presley a’r Beach Boys.
Roedd wedi cyrraedd ei 90 oed ac yn byw yn Palm Desert, Califfornia.
Ar glywed am ei farw, fe gafodd ei ddisgrifio gan Brian Wilson o’r Beach Boys fe “y drymiwr gorau erioed”.
Roedd wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr Cyfraniad Oes Grammy y llynedd, ac roedd yn enw mawr ym myd cerddoriaeth y 1960au a’r 1970au yn enwedig.
Ef oedd yn colbio’r crwyn ar ‘Return To Sender’ Elvis Presley; ‘Mr Tambourine Man’ band y Byrds; ‘The Way We Were’ gan Barbara Streisand; a ‘Good Vibrations’ y Beach Boys.