Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd Cyfarwyddwr Artistig cyntaf canolfan gelfyddydol Pontio yn rhoi’r gorau iddi ym mis Awst eleni.
Mae’r gyn-gantores opera sy’n byw yn Y Felinheli, ond sy’n hanu o Gaerdydd, wedi bod yn brif swyddog y ganolfan gelfyddydol yn y ddinas ers 2012. Cyn hynny, roedd hi’n gyfrifol am sefydlu amserlen artistig canolfan Galeri, Caernarfon.
“Yn ystod y cyfnod hwn bu Elen yn gyfrifol am sefydlu gweledigaeth artistig y ganolfan, gan arwain Pontio trwy gyfnod cythryblus yr oedi wrth ei agor ac mae wedi recriwtio tîm i redeg y ganolfan a’r rhaglen gelfyddydol a dechrau ar y gwaith o ddatblygu cynulleidfa,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.
“Ei nod o’r cychwyn oedd creu cynnig celfyddydol uchelgeisiol o ansawdd gyda phwyslais ar y Gymraeg a diwylliant o Gymru ynghyd â gweithgareddau sydd wedi rhoi lle amlwg i’r gymuned leol.”