Mae gorfod aros dwy flynedd cyn cael unrhyw un yn gyfrifol am y tân yn Tŵr Grenfell yn brofiad “rhwystredig a thorcalonnus”.

Dyma mae’r ymgyrchwyr Grenfell United yn ei ddweud, gan ddisgrifio’r safle y mae’r goroeswyr a pherthnasau y rhai gafodd eu lladd ynddo fel “limbo”.

Cafodd 72 o bobol eu lladd yn y tân yng Ngorllewin Llundain ar Fehefin 14, 2017.

Dywedodd Heddlu’r Metropolitan ddoe (dydd Mercher, Mawrth 7), y byddai’n “anghywir” dod i gasgliadau cyn cyhoeddiad yr adroddiad llawn ar Archwiliad Tŵr Grenfell.

Mae disgwyl i ail gymal yr archwiliad hwnnw ddechrau cyn diwedd y flwyddyn, ble bydd astudiaeth o ffactorau ehangach yn ymwneud a’r tân.

Roedd y cymal cyntaf wedi ei gyfyngu i’r noson ei hun.

Mae Scotland Yard wedi dweud mewn datganiad ei fod yn annhebygol o roi’r ffeil i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) “cyn hanner olaf 2021″.