Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mawrth 7) ei nod yn rhoi £2m o gyllid i ymdrin â iechyd meddwl a lles myfyrwyr mewn addysg uwch.

Bydd yr arian yn mynd tuag at wella’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, er bod mynd i’r brifysgol yn aml yn brofiad llawen, “mae hefyd yn gyfnod o newid sy’n golygu gorfod wynebu heriau”.

Mae’r rhain yn cynnwys byw yn bell o gartref am y tro cyntaf, rheoli arian, neu ymdopi â phwysau arholiadau.

“Cymorth pan fydd angen”

“Bydd y cyllid hwn yn cryfhau’r gofal a’r cymorth y mae prifysgolion yn eu darparu i fyfyrwyr, trwy ymyrryd neu gynnig cymorth iddyn nhw os bydd neu pan fydd angen,” meddai Kirsty Williams.

Mae problemau iechyd meddwl ymysg myfyrwyr ar ei uchaf erioed yng ngwledydd Prydain.  

Rhan o gyfres o gymorth

Bydd y £2m yn cael ei rannu trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Yn ôl eu Prif Weithredwr, Dr David Blaney, mae’r arian “yn rhan o gyfres o gymorth wedi’i dargedu,” ganddyn nhw, rhai “sy’n cydnabod y rôl unigryw mae prifysgolion yn ei chwarae ym mywydau pob dydd eu myfyrwyr”.

“O ran ymyriadau cynnar sy’n ymwneud â materion personol neu academaidd, neu o ran cynnig cymorth yn dilyn gorfod wynebu heriau, bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol,” meddai wedyn.