Mae nifer o elusennau mawr gwledydd Prydain yn galw ar y Prif Weinidog, Theresa May, i gymryd camau er mwyn sicrhau nad yw Brexit heb gytundeb yn effeithio’r bobol fwyaf bregus.

Eu pryder yw y byddai peidio cael cytundeb yn arwain at bobol yn llwgu.

Mae arweinwyr 15 o sefydliadau elusennol, gan gynnwys y Trussell Trust, Church Action on Poverty a FareShare, wedi ysgrifennu at Theresa May yn gofyn iddi sedydlu “cronfa galedi” ar gyfer y rhai fydd yn cael eu heffeithio os yw gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Maen nhw’n rhybuddia y bydd gwasanaethau sy’n bwydo miliynau pob dydd, fel bwyd ysgol am ddim, a chyflewnad bwyd i fanciau bwyd, i’r digartref ac i ffoaduriaid, i gyd yn cael eu hefdeithio gan gynnydd mewn pris bwyd.

Plant, yr henoed, cleifion ysbyty, a theuluoedd ar incwm isel fyddai’n cael eu heffeithio fwyaf, medden nhw.

Yn ôl yr elusennau, dylai Theresa lunio “cynlluniau manwl” i weithio gydag awdurdodau lleol ac elusennau a helpu’r bobol hyn.

Maen nhw hefyd yn gofyn am gronfa argyfwng i gynghorau a sefydliadau’r sector gyhoeddus i sicrhau bod bwyd yn cael ei sicrhau i’r rhai sydd ei angen fwyaf.