Mae 20 o grantiau o hyd at £750 wedi cael eu dyfarnu i fudiadau ledled Cymru yn rhan o Ras yr Iaith.
Mae’n rhan o’r ymdrechion ar hyd a lled y wlad i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y gymuned.
Cafodd trydedd Ras yr Iaith ei chynnal fis Gorffennaf y llynedd, gan godi dros £7,500 o elw.
Y rhai sy’n derbyn y grantiau eleni yw:
- Grŵp Llandrillo Menai
- Ysgol Bro Gwydir
- Ymgyrch Llanrwst
- Bocsŵn Môn
- Cyfeillion Ysgol Glantwymyn
- Y Selar
- Pwyllgor Apêl Aberystwyth Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020
- Merched y Wawr Aberystwyth
- Canolfan Deulu Llanbedr Pont Steffan
- Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr
- Ysgol Caer Elen
- Cylch Meithrin Caer Elen
- Gŵyl Gymraeg Llanelli
- Ysgol Dyffryn Aman
- Dawnswyr Penrhyd
- Ysgol Gyfun Gymunedol Gellionnen
- Tŷ’r Gwrhyd
- Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru Abertawe
- Cylch Meithrin y Ferch o’r Sgêr
- Eisteddfod y Cymoedd
- meddwl.org
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Ras yr Iaith ymweld â 15 o drefi a phentrefi gyda Baton yr Iaith yn uno miloedd o redwyr drwy Gymru gyfan. Rhoddodd busnesau, sefydliadau, ysgolion ac unigolion £50 yr un i noddi cymal o’r ras, gyda’r arian yn cael ei rannu ar ffurf grantiau.
Mae disgwyl i Ras yr Iaith gael ei chynnal unwaith eto yn 2020, gyda’r pwyslais ar wirfoddoli er lles y Gymraeg.