Fe ddylid adeiladu mwy o garchardai i daclo problem troseddau cyllyll gwledydd Prydain, meddai pennaeth heddlu.

Beirniadodd John Apter, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, cynigion gan wleidyddion i ostwng y nifer o ddedfrydau byr.

Mae’n dweud fod y mwyafrif o’r rheiny sy’n cael eu dal gyda chyllell yn osgoi carchar, er yr holl siarad caled gan wleidyddion ynglŷn â’r epidemig. O ganlyniad, mae angen adeiladu mwy carchardai, meddai.

Ond mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke, wedi dadlau bod “achos cryf iawn” tu ôl i ddiddymu dedfrydau o chwe mis neu lai, gydag eithriadau am droseddau treisgar a rhywiol.

Mae Gweinidog Carchardai, Rory Stewart, yn cefnogi hyn hefyd wrth geisio taclo problem o orboblogaeth mewn carchardai ar ben ail-droseddu.

“Angen cael canlyniad”

Dywedodd John Apter ar raglen Good Morning Britain ar ITV, “Er gwaethaf y rhethreg rydych chi’n ei glywed gan wleidyddion ynglŷn â bod yn galed ar y rhai sy’n cario cyllyll, mae dwy ran o dair o’r rhai sy’n euog yn osgoi carchar.”

“Mae gennym ysgrifennydd cyfiawnder sy’n dweud bod angen inni dorri dedfrydau yn fyrrach oherwydd bod y carchardai’n llawn.

“Fy nadl yw adeiladu mwy o garchardai – mae angen i ni gael canlyniad,” ychwanegodd.

Yn ôl y Llywodraeth, mae dedfrydau i bobol sydd yn cael eu dal a chyllyll neu arfau peryglus ar ei uchaf erioed, gyda 36% o achosion yn arwain at dymor yn y carchar.