Claf mewn ysbyty yn Llundain yw’r ail berson yn y byd i gael ei wella o HIV yn dilyn trawsblaniad bôn-gell, yn ôl doctoriaid.

Dim ond un waith o’r blaen mae triniaeth o’r fath wedi bod yn llwyddiannus, a hynny yn achos Timothy Ray Brown o’r Unol Daleithiau, a dderbyniodd driniaeth yn yr Almaen 12 mlynedd yn ôl ac sy’n dal i fod yn rhydd o’r feirws.

Bu’r claf o Lundain, sydd ddim wedi ei enwi, yn dioddef o HIV ers 2003 ac fe ddechreuodd gymryd cyffuriau i reoli’r feirws yn 2012.

Yn ystod yr un flwyddyn fe ddatblygodd Hodgkin Lymphoma, ac erbyn 2016 fe gytunodd i dderbyn triniaeth ar gyfer trawsblaniad bôn-gell.

Yn ôl Gofal Iechyd Coleg Imperial, mae’r claf wedi bod yn rhydd o HIV ers derbyn triniaeth yn Ysbyty Hammersmith yn nwyrain Llundain.

Ond er ei bod hi’n ddyddiau cynnar o ran gwellhad parhaol ar hyn o bryd, dywed yr Athro Eduardo Olavarria o Goleg Imperial Llundain god yr achos yn creu “gobaith newydd” yn yr ymdrech i chwilio am wellhad llwyr i HIV