Mae Hillary Clinton wedi dweud nad yw hi am ymgeisio i fod yn arlywydd yn 2020.

Ond mae’r ddynes a gollodd i Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn 2016, wedi ychwanegu nad y hi “am ddiflannu” o’r llwyfan wleidyddol.

Mewn cyfweliad, dywedodd y cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau ei bod hi am barhau i “weithio, siarad a sefyll dros yr hyn dw i’n credu ynddo”.

“Mae’r hyn sydd o dan fygythiad yn ein gwlad, y math o bethau sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn hynod o bryderus i mi.”