Mae llys yn Llundain wedi clywed fel y laddodd cwpwl fachgen 17 oed a’i guddio yn eu hatig er mwyn cael arian a rhoi “Nadolig da” i’w plant.

Mae Stacy Docherty, 28 oed, a Gary Hopkins, 37 oed, wedi eu cyhuddo o ladd Abdi Ali gyda morthwyl a chyllell 16cm o hyd yn eu cartref yn Enfield, Gogledd Llundain, ar Ragfyr 21, 2017.

Clywodd yr Old Bailey fod ei gorff a’r arfau wedi cael eu lapio mewn blanced a’u cuddio yn eu hatig am wyth mis.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu ar ôl i’r Stacy Docherty a Gary Hopkins ddweud wrth eu ffrindiau am y digwyddiad.