Mae ail ddyn wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth bachgen 18 oed yn Sunderland.

Fe ddaethpwyd o hyd i Connor Brown y tu ô i dafarn The Borough yng nghanol y ddinas, gydag anafiadau “oedd yn gyson â chael ei drywanu”. Roedd hynny am 1.30yb ddydd Sul (Chwefror 24), yn ôl Heddlu Northumbria.

Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yno yn ddiweddarach.

Mae Ally Gordon, 19, o Sunderland, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac o fod â llafn yn ei feddiant. Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon De Tyneside heddiw (dydd Mawrth. Chwefror 26) ynghyd â Leighton Barrass, 20, o Sunderland, sydd hefyd yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.