Mae disgwyl i Aelodau Seneddol y Grŵp Annibynnol newydd gynnal eu cyfarfod cyntaf heddiw (Dydd Llun, Chwefror 25) ar ôl iddyn nhw dorri’n rhydd o’u pleidiau wythnos ddiwethaf.

Roedd wyth Aelod Seneddol Llafur a thri Aelod Seneddol Ceidwadol wedi gadael eu pleidiau er mwyn ffurfio grŵp newydd.

Mae disgwyl iddyn nhw gwrdd yn ffurfiol am y tro cyntaf heddiw y tu ôl i ddrysau caeedig yn San Steffan.

Roedd y cyn-AS Llafur Chuka Umunna wedi mynnu dros y penwythnos nad ydyn nhw yn blaid ar hyn o bryd – dim ond grŵp o Aelodau Seneddol annibynnol. Serch hynny, mae disgwyl iddyn nhw fod dan bwysau i ffurfio plaid gydag adroddiadau bod rhai o gyn-gefnogwyr Llafur yn barod i helpu i’w hariannu.

Mae Chuka Umunna yn cael ei weld fel y ffefryn i arwain y grŵp.

Mae’r grŵp yn dweud eu bod nhw wedi bod yn anhapus iawn gyda’r modd mae eu cyn-bleidiau wedi delio gyda materion fel Brexit.

Ymhlith y cyn-Aelodau Seneddol Llafur, roedd ’na anniddigrwydd hefyd am fethiant arweinyddiaeth y blaid i fynd i’r afael a honiadau o wrth-Semitiaeth.

Mae ’na ddarogan y bydd rhagor o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ymuno a’r grŵp yn dilyn cyhoeddiad Theresa May ei bod yn gohirio’r bleidlais ar ei chynlluniau Brexit hyd at Fawrth 12 – 17 diwrnod yn unig cyn y mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.