Mae tafarn adnabyddus, y Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun, wedi cael ei difrodi mewn tân ddoe (Dydd Sul, Chwefror 25).
Cafodd criwiau tân o Ddinbych y Pysgod a Hwlffordd yn Sir Benfro eu galw i’r tân yn y dafarn, sy’n cael ei hadnabod fel Bessie’s yn lleol, prynhawn ddoe.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad, yn ôl Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae’r Dyffryn Arms wedi bod yn cael ei redeg gan yr un teulu ers 170 o flynyddoedd.
Mae hi ar agor ers 1840 ac yn ymddangos mewn nifer o lyfrau twristiaeth.