Mae tri o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn tân mewn eiddo ar gyrion Bryste.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Hartcliffe am oddeutu 7.50 neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 23).
Bu’n rhaid i’r tri dderbyn cymorth cyntaf yn y fan a’r lle.
Mae difrod sylweddol i’r adeilad.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth oedd achos y tân.