Mae Theresa May yn galw ar ei llywodraeth i ganolbwyntio’n llwyr ar Brexit, wrth i nifer o aelodau o’i Chabinet awgrymu y gallen nhw geisio arafu’r broses.

Mae manylion ei haraith i’r Confensiwn Ceidwadol Cenedlaethol wedi’u cyhoeddi gan Downing Street.

Mae Amber Rudd, Greg Clark a David Gauke ymhlith y rhai a allai gefnogi cynigion i atal y llywodraeth rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb – ac mae lle i gredu bod gan y tri gefnogaeth nifer o aelodau seneddol eraill.

Mae disgwyl i aelodau seneddol bleidleisio unwaith eto ddydd Mercher, a’r awgrym yw y gallai’r broses fod yn nwylo aelodau seneddol oni bai y gall Theresa May sicrhau cytundeb erbyn canol mis Mawrth.

Ond mae rhai adroddiadau’n dweud y gallai’r pleidleisiau hynny gael eu gohirio am y tro, wrth i Theresa May geisio sicrhau cefnogaeth ei Chabinet.

Ymestyn Erthygl 50?

Mewn erthygl ar y cyd, mae Amber Rudd (Gwaith a Phensiynau), Greg Clark (Busnes) a David Gauke (Cyfiawnder) yn dweud y byddai’r mwyafrif o aelodau seneddol yn cefnogi ymestyn Erthygl 50 yn hytrach na derbyn y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ond mae Theresa May yn galw ar bawb i ganolbwyntio ar y broses ymadael wrth i’r trafodaethau dynnu tua’u terfyn.

“Rhaid i’n ffocws ar gyflwyno Brexit fod yn absoliwt,” meddai.

“Rhaid i ni beidio – a fydda i ddim yn – rhwystro’r hyn yw’r ymarfer democrataidd mwyaf yn hanes y wlad hon.

“Yn y camau olaf yn y broses hon, y peth gwaethaf y gallen ni ei wneud yw colli ffocws.”

Daw ei sylwadau wedi i dri aelod seneddol – Anna Soubry, Heidi Allen a Sarah Woollaston – adael y blaid er mwyn cefnogi’r aelodau seneddol Llafur sydd wedi mynd yn annibynnol yn y tir canol.

Gwelliannau Brexit

Ddydd Mercher (Chwefror 27), bydd aelodau seneddol yn ystyried gwelliant gan Yvette Cooper, yr aelod seneddol Llafur, a Syr Oliver Letwin yn galw am ymestyn Erthygl 50 oni bai bod cytundeb erbyn canol mis Mawrth.

Cafodd gwelliant tebyg ei wrthod fis diwethaf.

Oni bai bod cytundeb erbyn dydd Mawrth, mae disgwyl i Theresa May roi datganiad pellach ar y mater a chyflwyno’i gwelliant ei hun i’r bil.