Mae un dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant yn rasys ceffylau Haydock yng Nglannau Mersi.|

Fe ddigwyddodd y ffrwgwd rhwng hyd at 100 o bobol ar drothwy ras ola’r dydd ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 16).

Cafodd dau griw o ddynion eu gweld yn bwrw ei gilydd yn y dorf oedd yn cynnwys menywod a phlant.

Fe dawelodd y criw cyn dod at ei gilydd unwaith eto, a bu’n rhaid i staff diogelwch eu tynnu oddi wrth ei gilydd.

Dywed llefarydd ar ran Haydock eu bod yn cydymffurfio ag ymchwiliad yr heddlu, a bod ganddyn nhw bolisi o “ddim goddefgarwch” o ddigwyddiadau treisgar.