Mae prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi rhybuddio byddai Brexit heb gytundeb yn niweidio cyflenwad bwyd a meddyginaeth i mewn i’w gwlad.
Dywedodd hyn wrth iddi gyhoeddi bod Llywodraeth yr Alban am gyflymu ei chynlluniau wrth gefn o flaen ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae dyddiad Brexit mewn chwe wythnos, ar Fawrth 29 – ac mae Nicola Sturgeon yn rhybuddio y bydd “prinder bwyd a diod” os nad oes cytundeb yn ei le erbyn hynny.
Pobol fregus yr Alban fydd yn teimlo’r effeithiau hyn fwyaf, ychwanegodd, gan alw unwaith eto ar y prif weinidog, Theresa May, i roi’r gorau i unrhyw syniad o ymadael heb gael cytundeb mewn lle.
Dangosodd adroddiad gan brif economydd yr Alban, Gary Gillespie, y byddai Brexit heb gytundeb yn arwain at “darfu mawr” a economi’r wlad.
Dywedodd y byddai’r amharu ar logisteg, cyflenwad, masnach, buddsoddi, ymfudo, a hyder yn achosi “newid strwythurol sylweddol yn yr economi.”
Ac er y disgwylir i economi’r Alban dyfu rhwng 1% a 1.5% dros 2019, pwysleisiodd yr adroddiad y byddai angen ailystyried hyn os yw gwledydd Prydain yn methu â chytuno ar fargen gyda’r Undeb Ewropeaidd.