Gall Theresa May wynebu gwrthryfel arall gan aelodau mwyaf gwrth-Ewropeaidd ei phlaid mewn pleidlais yn y Senedd heddiw.
Fe fydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynnig yn rhoi rhagor o amser i’r Prif Weinidog drafod cytundeb Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r grŵp sy’n ffafrio Brexit di-gytundeb, yr ERG, yn cefnogi’r agwedd o’r cynnig sy’n galw am barhau ail-drafod y cynllun wrth gefn dadleuol ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Y cyfan mae hyn yn ei wneud yw ailadrodd gwelliant a gafodd ei basio gan y Senedd ar 29 Ionawr.
Maen nhw, fodd bynnag, yn anfodlon fod y cynnig yn cydnabod gwelliant arall a gafodd eu basio’r un diwrnod, sef gwrthwynebiad ASau i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Eu barn nhw yw bod hyn yn gyfystyr â’r Prif Weinidog yn cyhoeddi na fydd yn caniatáu gadael heb gytundeb.
Yn y cyfamser, mae adroddiadau fod Jeremy Corbyn yn wynebu hyd at 10 o ymddiswyddiadau o’i fainc flaen os na fydd yn gwthio’r achos dros refferendwm arall ar Brexit.
Daw hyn ar ôl i ganghellor yr Wrthblaid John McDonnell fynnu bod y newid o ail refferendwm yn dal ar y bwrdd wrth iddo gydnabod bod dewis cyntaf Llafur, sef etholiad cyffredinol, yn ymddangos yn annhebygol.