Fe wnaeth tagfeydd traffig gostio £8 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig y llynedd, sy’n cyfateb i £1,317 i bob gyrrwr ar gyfartaledd.

Yn ôl y cwmni data trafnidiaeth Inrix, fe wnaeth gyrwyr yn Llundain golli £1,680 ar gyfartaledd yn sgil tagfeydd, gyda cholledion cyfatebol o £1,219 i yrwyr yng Nghaeredin, £1,157 ym Manceinion a £1,145 yng Nghaerlŷr.

O’r dinasoedd a gafodd eu hastudio, Lerpwl a ddioddefodd leiaf yn sgil tagfeydd, gyda chyfartaledd o £878 y gyrrwr.

Priffordd yr A406 yng ngorllewin Llundain yw’r un a ddioddefodd y tagfeydd gwaethaf, gan achosi i yrwyr wastraffu 61 awr y flwyddyn ar gyfartaledd.

Mae’r costau sy’n gysylltiedig â thraffig yn cynnwys ei gwneud yn fwy anodd cludo nwyddau, graddau cynhyrchu is, mwy o lygredd a lefelau uwch o ddamweiniau.

Yn ôl yr ymchwil, Llundain yw’r ddinas chweched waethaf yn y byd yn ôl ei phoblogaeth am dagfeydd, gyda Moscow ar y brig, ac wedyn Istanbul, Bogota a Dinas Mexico.