Mae Llywydd Comisiwn Ewrop, Donald Tusk, wedi cael ei ganmol gan Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, am “siarad llawer o synnwyr” am y rheiny fu’n ymgyrchu tros ac yn hybu Brexit.

Fe gyhoedodd Ian Blackford fod Donald Tusk wedi “mynegi ei rwystredigaeth” pan ddywedodd wrth newyddiadurwyr bod “lle arbennig yn Uffern” ar gyfer hybwyr Brexit.

Fe labelodd Arweinydd yr SNP yn San Steffan ymgais ddiweddaraf Theresa May i adfywio Cytundeb Ymadael fel un “eithaf rhyfeddol” gan ddatgan ei fod yn cydymdeimlo gyda’r Undeb Ewropeaidd yng nghanol y “llanast parhaus,” yma.

“Mae Donald Tusk yn rhywun sy’n siarad llawer o synnwyr,” meddai Ian Blackford.

“Rwy’n credu mai’r hyn a welwch o’r Undeb Ewropeaidd yw’r synnwyr o rwystredigaeth nad oes diwedd wedi bod i’r opera sebon yma sydd â goblygiadau peryglus iawn i bobol yr Alban a gweddill Ynysoedd Prydain.”

Dywedodd Ian Blackford hefyd fod rhwystredigaeth “ddim yn syndod” pan mae Theresa May wedi treulio “amser maith” yn dod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.