Mae llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, yn dweud y bydd yna “le arbennig yn Uffern” ar gyfer y rheiny oedd yn gyfrifol am hybu Brexit heb y syniad lleiaf o sut i’w ddelifro.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth iddo fynnu na fydd yna drafod pellach ar y Cytundeb Ymadael sydd wedi’i gytuno gyda Theresa May. Nid oes modd ail-agor y drafodaeth na symud ar fater ffin galed rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, meddai wedyn.

Mae wedi bod yn trafod gyda Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar, yn Brwsel, ac mae’r ddau heddiw wedi galw’r Brexit heb gytundeb a fydd yn dod i rym ar Fawrth 29 eleni fel “ffiasgo”.

Yn y cyfamser, mae Theresa May wedi dechrau ar gyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr gwleidyddol Gogledd Iwerddon. Mae disgwyl iddi gyfarfod Donald Tusk fory (dydd Iau, Chwefror 7).