Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am fyfyrwraig 21 oed sydd ar goll o Hull.

Does neb wedi gweld Libby Squire, sy’n astudio ym mhrifysgol y ddinas, ers nos Iau (Ionawr 31).

Fe fu’r heddlu’n chwilio amdani ers bore ddoe (dydd Gwener, Chwefror 1), ac mae ei ffrindiau bellach yn chwilio amdani ac yn apelio am wybodaeth ar wefannau cymdeithasol.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi gadael clwb nos mewn tacsi am 11 o’r gloch nos Iau, a bod modurwr wedi rhoi cymorth iddi am oddeutu 11.45yh.

Mae hi’n 5’7″, a chanddi wallt brown at ei hysgwyddau.

Roedd hi’n gwisgo top du gyda llewys hir, siaced ledr a sgert denim ddu.