Mae dyn sy’n cael ei gyhuddo o gynllwynio ymosodiad asid yn erbyn ei fab ei hun, wedi’i ddal yn anfon neges a llun at un o’i gyfeillion yn dweud iddo lwyddo i’w “sodro hi”.

Dyna glywodd llys yr wythnos hon, wrth i’r achos i’r ymosodiad ar y bachgen yn siop Home Bargains yng Nghaerloyw ar Orffennaf 21 y llynedd, fynd rhagddo.

Mae dyn 40 oed wedi’i gyhuddo o gynllwynio i daflu asid sylffiwrig ar neu at fachgen rhwng Mehefin 1 a Gorffennaf 22, 2018, gyda’r bwriad o’i losgi, anafu neu wneud y plentyn yn anabl.

Mae’r erlyniad yn hawlio fod y dyn wedi mynd i chwilio am help gan eraill i ddial ar ei gyn-wraig, a oedd newydd ei adael. Roedd am greu’r argraff, meddai’r Goron, fod y wraig yn fam wael am ganiatau i’w mab gael ei anafu yn y fath fodd.

Y dynion sydd wedi’u cyhuddo yw Adam Cech, 27, o Birmingham; Jan Dudi, 25, o Birmingham; Norbert Pulko, 22, o Lundain; Martina Badiova, 22, o Handsworth; Saied Hussini, 42, o Lundain; a Jabar Paktia, 42, o Wolverhampton.

Maen nhw i gyd yn gwadu’r cyhuddiadau.