Mae’r heddlu’n ymchwilio i frwydro rhwng cefnogwyr Millwall ac Everton ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 26), ar ôl i ddyn gael ei drywanu yn ei wyneb.

Roedd y ddau dîm yn herio’i gilydd yng Nghwpan FA Lloegr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro mawr yn ardal Southwark yn ne Llundain cyn y gêm, ac mae fideos ar y we yn dangos yr heddlu’n ceisio adfer heddwch.

Cawson nhw eu galw i’r ardal toc ar ôl 4.30yp, ac maen nhw bellach yn apelio am wybodaeth, gan ddweud bod y digwyddiad yn un “gwarthus” sydd wedi ennyn “sioc a ffieidd-dra”.

Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i ganeuon hiliol yn cael eu canu gan gefnogwyr Millwall yn ystod y gêm y gwnaethon nhw ei hennill o 3-2.