Fe fydd y chwilio am Emiliano Sala, pêl-droediwr Caerdydd, yn ailddechrau ar ôl i fwy na £250,000 gael ei godi yn dilyn ymgyrch ar y we.

Daeth y chwilio swyddogol am yr Archentwr a’i beilot David Ibbotson i ben ddydd Iau (Ionawr 24).

Fe fu teulu’r chwaraewr a Mauricio Macri, prif weinidog yr Ariannin, yn galw am barhau i chwilio am y ddau, ar ôl i’w hawyren ddiflannu yn Ynysoedd y Sianel wrth deithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd.

Fe fydd dau gwch yn parhau i chwilio amdanyn nhw.

Y peilot a’r awyren

Fe ddaeth i’r amlwg erbyn hyn fod yr asiant pêl-droed Willie McKay wedi trefnu’r awyren o Nantes i Gaerdydd, ond nad oedd e wedi dewis y peilot na’r awyren.

Roedd ei fab Mark yn asiant ar gyfer trosglwyddiad Emiliano Sala o Nantes i Gaerdydd am £15m, sy’n record i’r Adar Gleision.

Mae Jack McKay, mab arall Willie McKay, yn aelod o Academi Caerdydd ac fe fu’n cyfathrebu ag Emiliano Sala er mwyn cadarnhau trefniadau’r daith.

Fe wnaethon nhw benderfynu peidio â hedfan ar awyren fasnachol, gan y byddai’r daith yn cynnwys newid awyren yn Amsterdam.

Teyrngedau

Mae disgwyl i gêm Caerdydd yn erbyn Arsenal fynd yn ei blaen nos Fawrth (Ionawr 29).

Bydd y chwaraewyr yn gwisgo cennin pedr, tra bydd y ddau gapten yn gosod blodau ar y cae cyn y gêm.

Mae nifer o dimau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth eisoes wedi talu teyrnged i’r ddau.