Mae Sarfaraz Ahmed, capten tîm criced Pacistan, wedi cael ei wahardd am bedair gêm yn sgil ei ymddygiad hiliol mewn gêm undydd yn erbyn De Affrica ddydd Mawrth (Ionawr 22).
Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) wedi ei gael yn euog o dorri’r cod gwrth-hiliaeth pan wnaeth e sarhau Andile Phehlukwayo drwy gyfeirio ar y cae at liw ei groen. Cafodd y sylw ei glywed ar feicroffôn.
Fe wnaeth y wicedwr wrthod yr awgrym fod y sylw wedi’i anelu’n uniongyrchol at y chwaraewr, gan ymddiheuro ddydd Iau a derbyn ei fod e wedi torri’r rheolau.
Fe fydd Shoaib Malik yn arwain y tîm yn ei absenoldeb ar gyfer dwy gêm ola’r gyfres, a dwy gêm ugain pelawd yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Bydd rhaid i Sarfaraz Ahmed ddilyn cwrs ymddygiad mewn cydweithrediad â Bwrdd Criced Pacistan.