Syr Jimmy Savile
Mae’r cyflwynydd teledu ifanc ei ysbryd Syr Jimmy Savile yn dweud ei fod yn “teimlo’n iawn” er ei fod wedi gorfod mynd i’r ysbyty.

Mae cyflwynydd cynta’ Top Of The Pops a’r sioe chwedlonol Jim’ll Fix It, sy’ bellach yn 84 oed, yn dod at ei hun ar ôl diodde’ o pneumonia.

“Rydw i’n timlo’n iawn ac yn gobeithio bod adre’n fuan,” meddai.

Bu Syr Jimmy yn gweithio fel glöwr yn Swydd Efrog cyn cychwyn sawl clwb nos a gweithio fel reslar a throellwr disgiau.

Mae wedi codi miliynau at goffrau achosion da a rhedeg sawl marathon.