Mae 18 o achosion o ddrôns yn mynd yn agos at awyrennau wedi bod mewn meysydd awyr, ac mae ymgais dechnolegol ar y gweill i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Roedd pedwar o’r achosion gafodd eu harchwilio gan Fwrdd Airpox Prydain (UKAB) wedi digwydd ym maes awyr Heathrow.
Yn ôl y bwrdd, roedd “risg sicr o wrthdrawiad wedi bodoli” ym mhob un o’r achosion.
Mewn ymgais i atal y broblem rhag digwydd eto, mae system i atal drôns, fydd yn cael ei osod ar ben cerbyd, wedi ei osod yn Heathrow.
Gall teclynnau AUDS (System Amddiffyn Gwrth-UAV) ganfod, tracio a dod a’r drôns yn ôl i lawr i’r ddaear.
Cafodd y dechnoleg ei chreu er mwyn atal terfysgaeth ac er mwyn ysbio neu ganfod gweithgareddau amheus eraill.