Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu’r cyfyngiad cyflymder o 70 milltir yr awr i 80mya o fewn dwy flynedd.

Dywedodd yr Ysgrifenydd  Trafnidiaeth Philip Hammond y bydd yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda’r bwriad o gyflwyno’r cyfyngiad cyflymder newydd yn 2013.

Mae disgwyl i Philip Hammond hefyd gyhoeddi cyfyngiad cyflymder o 20mya mewn ardaloedd dinesig.

Mae’r cynlluniau’n debygol o gael eu beirniadu’n llym gan ymgyrchwyr diogelwch ffyrdd ac amgylcheddwyr.

Mae Philip Hammond yn dadlau y bydd y cyfyngiad cyflymder newydd o 80mya o fudd i’r economi.

Cafodd y cyfyngiad cyflymder presennol o 70mya ei osod yn 1965. Mae’r Llywodraeth yn dadlau bod ceir yn llawer mwy diogel erbyn hyn, gyda gostyngiad o 75% yn nifer y rhai sy’n cael eu lladd ar ffyrdd Gwledydd Prydain ers hynny.

Mae nhw hefyd yn dweud bod 49% o yrrwyr yn torri’r cyfyngiad cyflymder.

Roedd disgwyl i’r cynlluniau gael eu cyhoeddi yng nghynhadledd y blaid Geidwadol ym Manceinion dros y penwythnos, ond fe waned y cyhoeddiad yn gynt ar ôl i’r manylion gael eu rhyddhau.