Llyr Huws Gruffydd
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo gweinidog iechyd anifeiliaid Llafur o “hepian yn ei swydd” heddiw, wrth iddi ymddangos nad oedd y gweinidog yn ymwybodol bod DEFRA yn bwriadu cau labordai milfeddygol Cymru.
Yn ôl Llyr Huws Gruffydd, sy’n lefarydd amaeth i Blaid Cymru, byddai cau labordai milfeddygol yng Nghymru yn andwyol i iechyd anifeiliaid a’r diwydiant amaethyddol.
Mae cynlluniau’r Asiantaeth Labordai Iechyd Anfeiliaid a Milfeddygol, a ddaeth i’r amlwg ddechrau’r mis, wedi cael eu cymeradwyo gan DEFRA fel rhan o gynlluniau i arbed arian.
Bydd y cynlluniau yn golygu cau’r ddau labordy sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, a chau chwech arall yn Lloegr – gan adael chwech ar ôl.
Mae’r labordai sydd dan fygythiad yng Nghymru wedi eu lleoli yn Aberystwyth ac yng Nghaerfyrddin, ac mae disgwyl i’r rhain gael eu cau erbyn 2013.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Labordai wrth Golwg 360 heddiw bod y penderfyniad wedi ei wneud i gau Labordai Caerfyrddin ac Aberystwyth, ond na fyddai’r safleoedd eu hunain yn cau.
“Dydi’r safleoedd ddim yn mynd i gau,” meddai Adrian Rogers, “ond fyddwn ni yn atal peth o’r gwaith ymchwil gwyddonol sy’n cael ei wneud yn y labordai yno.”
Ar hyn o bryd mae tîm o filfeddygon a thîm o wyddonwyr yn gweithio law yn llaw ar safleoedd Aberystwyth a Chaerfyrddin, ond ar ôl newidiadau DEFRA, dim ond y milfeddygon fydd yn parhau ar y safle. Bydd hyn yn golygu bod deunydd sydd angen ei ddadansoddi yn gorfod cael ei anfon i ffwrdd i labordai sydd ar ôl yn Lloegr.
Bydd swyddi 15 o bobol yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn, yn ôl Adrian Rogers, ond mynnodd na fyddai’r newidiadau yn effeithio’r y modd y mae’r cyhoedd yn defnyddio’r wasanaeth.
Plaid Cymru yn gandryll
Ond mae Plaid Cymru wedi eu gwylltio gan y penderfyniad, gan gyhuddo’r blaid Lafur o fethu a chynrychioli ffermwyr Cymru yn y drafodaeth dros gau’r labordai.
Yn ôl Elin Jones AC, mae’r gweinidog iechyd anifeiliaid yng Nghymru, John Griffiths, “wedi bod yn hepian yn ei swydd,” wedi iddo ddweud yn y Cynulliad ddoe nad oedd yn ymwybodol bod DEFRA wedi gwneud penderfyniad terfynol i gau’r labordai.
“Dydyn ni heb gytuno i gau labordai iechyd anifeliliaid yng Nghymru,” meddai.
“Dydi hi ddim yn ddealltwriaeth gen i fod y penderfyniad wedi ei wneud i gau, er fy mod i’n deall y bydd rhai swyddi yn cael eu colli, yn ogystal â throsglwyddo rhai gwasanaethau i labordai yn Lloegr.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Labordai, sy’n gweithio dros DEFRA, eu bod wedi trafod y mater â swyddfa Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ystod y broses ymgynghorol cyn dod i’r penderfyniad i gau’r labordai.