Mae’r heddlu wedi cael 12 awr ychwanegol i holi dyn 35 oed sydd wedi’i amau o drywanu dyn 51 oed i farwolaeth ar drên ddydd Gwener.

Mae dynes 27 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cawson nhw eu harestio ar ôl i’r heddlu archwilio fflat yn Farnham.

Roedd Lee Pomeroy wedi bod yn Llundain gyda’i fab 14 oed pan gafodd ei drywanu mewn ymosodiad “erchyll a di-bwynt”. Mae wedi’i ddisgrifio fel “dyn anrhydeddus a fyddai bob amser yn helpu rhywun mewn trafferth”.

Roedd yn byw yn Guildford gyda’i wraig Svetlana a’i fab. Roedd y ddau yn gydweithwyr mewn cwmni technoleg.

Fe fyddai wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd dros y penwythnos.

Cefndir

Roedd Lee Pomeroy a’i fab ar drên rhwng Guildford a Waterloo, ynghyd â’r dyn sydd wedi’i amau o lofruddiaeth.

Mae’r troseddwr honedig yn cael ei ddisgrifio fel dyn croenddu o gorffolaeth denau yn ei 20au neu ei 30au, ac yn 6’0″ a chanddo farf.

Fe fu’r ddau ddyn yn ffraeo am rai munudau cyn yr ymodosiad, ac fe wnaeth y troseddwr honedig ffoi wedyn cyn cael ei arestio’n ddiweddarach ynghyd â dynes 27 oed, sydd wedi’i henwi’n lleol fel Chelsea Mitchell.

Mae lle i gredu bod y ddau yn byw gyda’i gilydd.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall, ac maen nhw’n parhau i apelio am wybodaeth.