Mae teulu’r dyn a gafodd ei lofruddio ar drên bnawn ddoe wedi talu teyrnged i “ddyn anrhydeddus a fyddai bob amser yn helpu rhywun mewn trafferth.”

Roedd Lee Pomeroy yn mynd â’i fab 14 oed am drip i Lundain, ac fe fyddai wedi bod yn dathlu ei benblwydd yn 52 oed heddiw.

Roedd yn teithio ar y trên 12.58 o Guildford pan gafodd ei drywanu amryw o weithiau.

Mae’r heddlu’n dal i holi dyn a gafodd ei arestio yn Farnham yn gynnar fore heddiw, ac mae dynes 27 oed hefyd wedi ei harestio ar amheuaeth o helpu troseddwr.

“Cafodd bywyd Lee ei dorri’n fyr mewn ymosodiad erchyll a dibwrpas,” meddai’r teulu yn eu teyrnged.

“Roedd yn berson gonest a disglair, a oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth. Roedd yn gwybod hanes a chelf ac wedi graddio mewn mathemateg.

“Roedd yn ŵr a thad cariadus ac fe fydd colled fawr ar ei ôl gan bawb o’i deulu.”

‘Nid ymosodiad ar hap’

Dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r lladd.

“Rydym yn hyderus wrth ddweud nad ymosodiad ar hap oedd hwn,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Sam Blackburn.

“Roedd y ddau ddyn yn ymddangos fel pe baen nhw wedi bod yn ffraeo am tua thri munud.

“Doedd dim byd yn cyfiawnhau’r trais erchyll a ddilynodd, ac rydym yn canolbwyntio’n hymdrechion ar yr ymchwiliad presennol.”