Mae gwasanaeth y bad achub wedi cael eu galw i geisio rhyddhau morfil sberm sydd wedi cael ei ddal mewn rhaff mewn llyn yn yr Alban.

Cafodd y bad ei galw i Lyn Eriboll, ger Durness yn Sutherland o gwmpas 12.30yp heddiw (dydd Iau, Ionawr 3) gan Elusen Lles Anifeiliaid yr Alban, yr SPCA.  

Mae cred bod y mamal 30 troedfedd wedi cael ei ddal yno mewn rhaff ac mae Tîm Achub Bywyd Môr Prydain wedi cyrraedd gydag offer i’w ryddhau.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forwrol a’r Bad Achub, mae’r morfil yn dal i nofio o gwmpas, ac naen nhw’n annog y cyhoedd i gadw draw.

Mae bad achub Durnes, Melness a Kinlochbervie, ynghŷd â SCPA yr Alban wedi bod yn monitro’r morfil.

Mae’r morfil sberm yn un o’r mamaliaid sy’n gallu deifio’r dyfnaf yn y byd, ac maent ar gyfartaledd yn 50 troedfedd o hyd.