Mae cynghorydd tref wedi cael ei garcharu am 32 mis ar ôl cael ei ganfod yn euog o gamdriniaeth rywiol yn erbyn tair o ferched ifainc.
Roedd James Anderson, 34, a oedd yn gynghorydd ar Gyngor Tref Uckfield, wedi ymosod ar ddwy o’r merched mewn siop yr oedd yn ei rhedeg ar y pryd.
Yn ôl Heddlu Sussex, fe gyflawnodd bob un o’r troseddau tra oedd yn gynghorydd, a hynny rhwng 2014 a 2017.
Yn dilyn achos llys, fe blediodd y siopwr i dri achos o gyflawni gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn; dau achos o ymosod yn rhywiol, ac un cyhuddiad o achosi person i fod yn rhan o weithred rywiol heb ganiatâd.
Roedd hefyd wedi gwadu pedwar cyhuddiad arall, gydag un ohonyn nhw’n cyfeirio at bedwaredd ferch.
Yn ogystal â chyfnod o garchar, cafodd James Anderson ei orchymyn i arwyddo rhestr y troseddwyr oes am oes.
Mae hefyd wedi derbyn gorchymyn atal niwed rhywiol, sy’n gosod terfynau ar ei fynediad at ferched o dan 16 oed.