Mae Cymro a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd yn ennill hyd at £1,000 yr awr yn mynd i ddigwyddiadau fel ŵyr Brenhines Lloegr.
Fe ddechreuodd Rhys Whittock, sydd bellach yn ddatblygwr tai sy’n byw yn Kent, feddwl am yrfa yn y maes tua saith mlynedd yn ôl, pan ddywedodd rhai o’i ffrindiau a’i deulu ei fod yr un ffunud â’r Tywysog Harry.
Ond er na chafodd ddim lwc o ran gwaith ar y pryd, dywed fod asiantaethau wedi dechrau cymryd diddordeb ynddo ar ôl i’r Tywysog Harry ddyweddïo â Meghan Markle yn 2017, a’i phriodi yn Windsor ym mis Mai 2018.
“Gyda chyhoeddiad y dyweddïad ym mis Tachwedd 2017, bu storm fawr o ran y wasg, ac union ddiwrnod yn ddiweddarach fe wnaeth asiantaeth gysylltu â mi,” meddai Rhys Whittock wrth golwg360.
“Fe gefais fy swydd gyntaf ym mis Mawrth 2018 ar gyfer cwmni siocled a oedd yn gwneud siocled â llaw, ac ar ôl hynny fe brysurodd pethau wrth i’r briodas agosáu.
“Yr adeg ar drothwy’r briodas oedd y cyfnod prysuraf. Yr wythnos honno roeddwn i’n gwneud o leiaf un ymddangosiad – ac hyd yn oed mwy – y dydd…”
Gwaith rhan amser
Ers y briodas ym mis Mai, mae Rhys Whittock yn derbyn ceisiadau i ddigwyddiadau cyhoeddus a phartïon “tua dwywaith y mis”, ac mae wedi cydweithio â chwe ‘Meghan Markle’ gwahanol hyd yn hyn.
Er bod y mwyafrif o’i waith yn Llundain, mae’n dweud iddo dderbyn gwahoddiad un tro i ddigwyddiad a oedd yn cael ei gynnal gan filiwnydd yn Hong Kong, lle cafodd gyfle i aros mewn gwesty pum seren.
Ond dyw’r Cymro ddim yn barod i fod yn lookalike llawn amser eto, gan nad yw’n derbyn gwaith yn ddigon “cyson”.
“Mae popeth yn dibynnu ar boblogrwydd y cymeriad ry’ch chi’n ei chwarae,” meddai. “Mae yna rai pobol sy’n gwneud hyn yn llawn amser oherwydd bod yna gymaint o alw am eu cymeriad.
“Maen nhw’n gwneud tua phedwar i bump ymddangosiad yr wythnos trwy’r flwyddyn.”