Mae dyn 28 oed wedi’i gyhuddo o dreisio ddynes yn Sir Benfro ddeuddydd wedi’r Nadolig.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi mai enw’r dyn yw Blaine Alexander Sawyer, a’i fod wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Calan (dydd Mawrth, Ionawr 1).

Mae wedi’i ryddhau ar fechniaeth amodol nes y mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron, Abertawe, ar Chwefror 4.