Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn achos o drywanu dros y penwythnos.

Mae Martyn Turley, 57, o Tipton ger Birmingham, wedi’i gyhuddo o ladd Stuart Roe, a gafwyd yn farw yn Halesowen tua 1.45yb ddydd Sul (Rhagfyr 30).

Y gred ydi iddo ddioddef ymosodiad ar y stryd, yn ôl Heddlu’r West Midlands. Bu farw yn y fan a’r lle.