Mae’n ymddangos bod Auld Lang Syne, y gân sy’n cael ei chysylltu â’r flwyddyn newydd, yn llai poblogaidd nag erioed ymhlith pobol ifanc.

Ar y cyfan, pobol dros 45 oed sy’n ei lawrlwytho fwyaf, gyda dim ond 5% o’r lawrlwythiadau gan bobol rhwng 18-25 oed.

Serch hynny, mae’r cwmni ffrydio Deezer yn dweud mai hi oedd y gân a gafodd ei lawrlwytho fwyaf rhwng 11.55yh ar Ragfyr 31 a 12.05yb ar Ionawr 1 ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r gân yn seiliedig ar gerdd gan yr Albanwr Robert Burns yn 1788, a Glasgow yw’r ddinas lle mae hi’n cael ei lawrlwytho fwyaf. Mae hi hefyd yn boblogaidd yn Y Barri.

“Nos Calan eleni, rydym yn annog mwy o bobol ifanc i gymryd at y traddodiad o ganu Auld Lang Syne,” meddai Adam Read, golygydd Deezer.