Mae gweithwyr rheilffordd wedi rhoi eu cefnogaeth yn gadarn i streic arall ynglŷn â giardiau sy’ wedi effeithio ar wasanaethau yng ngogledd Lloegr.

Mae’r gweithredu gan aelodau o undeb y Rail, Maritime and Transport (RMT) wedi cael effaith andwyol ar wasanaethau Arriva Rail North (Northern) wedi i’r gweithwyr gerdded allan am y 42ydd tro ers i’r anghydfod ddechrau.

Achosodd y gweithredu drafferthion mawr i siopwyr wedi’r Nadolig ac i gefnogwyr chwaraeon.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT Mick Cash ei fod eisiau “talu teyrnged eto” i aelodau yr undeb sy’n gweithio i Northern Rail am eu dycnwch a’u dyfalbarhad dros gyfnod hir o ddwy flynedd.

Ychwanegodd mai craidd yr helynt oedd fod yr undeb yn mynnu bod angen ail berson yn ychwanegol i’r gyrrwr ar bob taith i sicrhau diogelwch teithwyr.

Mynnodd rheolwr gyfarwyddwr Arriva David Brown fod Adran Trafnidiaeth gogledd Lloegr wedi cadarnhau yn ddiweddar y bydde ail berson – yn ychwanegol i’r gyrrwr – yn cael ei gadw ar  wasanaethau Northern.

Honnodd hefyd nad oedd yna reswm felly i’r RMT barhau a’r streiciau.

Mae’r RMT wedi rhybuddio y bydda nhw yn streicio bob dydd Sadwrn ym mis Ionawr tra fydd gwasanaethau South Western Railway hefyd yn cael eu effeithio Nos Galan yn ystod yr un anghydfod.