Mae tri dyn a laddodd bump o bobl wrth roi siop ar dân wedi eu cael yn euog o lofruddio ac o gynllwynio i hawlio £300,000 o arian yswiriant.

Roedd Arkan Ali, Hawkar Hassan ac Aram Kurd wedi defnyddio cymaint o betrol mewn ymosodiad ar archfarchnad Aram Kurd yng Nghaerlŷr nes achosi ffrwydrad a wnaeth ddifa’r siop a fflat uwch ei phen.

Clywodd Llys y Goron Caerlŷr fod gweithwraig yn y siop, Viktorija Ijevleva, 22 oed, wedi cael ei gadael i farw yno oherwydd ei bod hi’n gwybod bod polisi yswiriant wedi cael ei drefnu dair wythnos ynghynt. Roedd y pedwar arall yn y fflat uwchben.

Cafodd y tri diffynnydd, 38, 33 a 34 oed eu helpu yn yr achos gan gyfieithydd Cwrdaidd. Maen nhw wedi eu cadw yn y ddalfa i gael eu dedfrydu ganol mis Ionawr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad nos Sul, 25 Chwefror eleni.