Mae maes awyr Gatwick wedi ailgychwyn hedfan awyrennau ar ôl eu hatål am yr ail waith yn gynharach heno.
Roedd hyn yn dilyn amheuaeth fod drôn wedi cael ei gweld ychydig wedi 5 o’r gloch.
Roedd y llain lanio wedi ailagor y bore yma ar ôl i awyrennau gael eu rhwystro rhag codi na glanio yn y maes awyr ers 9 o’r gloch nos Fercher.
Mae’r heddlu’n credu bod mwy nag un drôn yn cael ei defnyddio ac maen nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd o fwy nag un troseddwr.
Mae’r heddlu wedi bod wrthi’n paratoi i saethu’r drôns i lawr â drylliau, neu eu rhwystro â system radar uchel dechnoleg wrth iddyn nhw barhau i chwilio am y drôns a’r rhai sy’n gyfrifol.
Mae’r heddlu â meddwl agored ynghylch eu cymhellion, gyda theorïau’n cynnwys protest amgylcheddol.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Sussex, Steve Barry, nad oes unrhyw dystiolaeth o weithgaredd grym tramor, ond dywedodd fod hedfan drôns fel hyn yn ymddygiad troseddol difrifol iawn.
“Mae adnoddau yma ym maes awyr Gatwick i liniaru’r bygythiad a llawer o adnoddau i ddod â’r troseddwr i gyfiawnder,” meddai.