Mae dynes 44 oed o Gaeredin wedi’i charcharu am dair blynedd am dwyll yn ymwneud â than Tŵr Grenfell ac ymosodiadau brawychol Manceinion a Llundain.

Clywodd y llys yn Llundain fod Ruksana Ashraf wedi hawlio bron i £180,000 mewn tri chais ar wahân i RSA, Aviva a Legal and General rhwng 2012 a 2017.

Roedd hi’n llwyddiannus wrth hawlio cyfanswm o £50,116 o’r swm hwnnw, ond yn aflwyddiannus o ran y gweddill.

Defnyddiodd hi enwau, cyfeiriadau a ffonau symudol amrywiol i sefydlu dwsinau o bolisïau yswiriant er mwyn hawlio ariannol yn anghyfreithlon.

Roedd hi hefyd wedi cyfaddef iddi fod ag eiddo anghyfreithlon yn ei meddiant ar ôl derbyn talebau ar draul arian.

Dywedodd y barnwr bod ei gweithredoedd yn “warthus” a bod cyfnod o garchar yn anochel er ei bod hi wedi troi at alcohol a chyffuriau, ac yn gofalu am ei mam.