Mae erlynwyr yn dweud eu bod nhw ar fin cael gafael ar ddau berson o Libya sy’n cael eu hamau o fod â rhan yn ffrwydrad Lockerbie, union 30 mlynedd yn ôl eleni.

Mae papur The Times yn adrodd bod ymchwilwyr o’r Alban a’r Unol Daleithiau yn gobeithio y gallan nhw holi Abdullah Al-Senussi, sy’n cael ei amau o gynllunio’r ymosodiad; ac Abu Agila Mas’ud, a grëodd y bom.

Mae’r ddau ar hyn o bryd mewn carchar yn Libya.

Daw’r newyddion ar ôl i Brif Weinidog Libya, Fayez Al-Sarraj, ddweud bod ei lywodraeth yn fodlon estraddodi Hashem Abedi.

Mae’r awdurdodau yng ngwledydd Prydain yn awyddus i’w holi mewn cysylltiad â’r ymosodiad yng nghyngerdd Ariana Grande ym Manceinion y llynedd, pan gafodd 22 o bobol eu lladd.

Brawd y dyn dan sylw, sef Salman Ramadan Abedi, oedd yr hunan-fomiwr a gyflawnodd yr ymosodiad.