Mae’r Unol Daleithiau wedi cyfrannu $10.6bn (£8.4bn) i wledydd America Ganol mewn ymgais i greu safonau diogelwch gwell a chyfleoedd gwaith.

Mae’r addewid yn rhan o gynllun rhanbarthol a fydd yn sicrhau bod pobol y rhan honno o’r byd yn aros yn eu gwledydd a dim yn allfudo.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi ar y cyd rhwng llywodraethau’r Unol Daleithiau a Mecsico.

Mae Arlywydd newydd Mecsico, Andres Manuel Lopez Obrador, wedi bod yn ymgyrchu am ddatblygiad yn ne ei wald ers tro, sy’n cynnwys nifer o gymunedau tlawd.