Mae dyn o wledydd Prydain ymysg pump o ‘dramorwyr’ sydd wedi’u harestio yn ynys Bali, ar amheuaeth o smyglo cyffuriau.
Mae’r awdurodau yn Indonesia wedi rhoi’r dynion o wledydd Prydain, Periw, Tsieina, Malaysia a’r Almaen, ar barêd mewn cynhadledd i’r wasg, gan ddweud iddyn nhw gael eu harestio yn ystod pum cyrch wahanol gan heddlu’r tollau.
Ers Tachwedd 30, maen nhw’n dweud i 8.8 pwys o’r cyffur cocên gael ei atal, ynghyd â mariwana, ecstasi a ketamine.
Mae cyfreithiau cyffuriau Indonesia yn rhai llym iawn, ac mae dwsinau o smyglwyr sydd wedi cael eu dal yng ngharchar yn aros i gael eu dienyddio.
Mae datganiad gan yr heddlu yn dweud fod dyn o Periw yn cario gwerth 10.2 biliwn rupiah (£554,000) o gocên yn leinin ei gês.
Roedd y dinesydd Prydeinig, meddai’r un datganiad, wedi derbyn bron i 68 pwys o olew canabis trwy’r post, ac roedd yr Almaenwr wedi’i ddwyn i’r ddalfa am geisio smyglo, yn honedig, 5.7 pwys o hashish ar awyren o Bangkok i Bali.
Mae’r dinesydd o Tsieina wedi’i arestio am fod â 200 o dabledi ecstasi a phowdwr ketamine yn ei feddiant. Roedd y gŵr o Malaysia yn cario ychydig o ganabis synthetig ac ecstasi.