Mae gyrrwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, a dyn aral wedi’i anafu’n ddifrifol, wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd wledig yn yr Alban.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A93 rhwng Aberdeen a Braemar tua hanner milltir i’r gorllewin o Kincardine O’Neil, tua 4.50yp ddoe (dydd Mercher).

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod car Suzuki Swift glas, a fan Renault Kangoo wen wedi mynd yn erbyn ei gilydd, a bod gyrwyr y ddau gerbyd wedi’u cludo i ysbyty Inffyrmari Brenhinol Aberdeen.

Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.