Mae Theresa May yn wynebu rhagor o drafferthion wrth i blaid y DUP rybuddio y byddan nhw’n dod â’i hawdurdod i ben os yw hi’n parhau â’i chytundeb Brexit.
Mae’r DUP eisoes wedi dweud eu bod nhw’n fodlon cefnogi’r Llywodraeth mewn pleidlais o ddiffyg hyder os bydd y cytundeb yn cael ei wrthod gan Aelodau Seneddol yn y bleidlais fawr yr wythnos nesaf (Rhagfyr 11).
Ond maen nhw’n sefyll yn gadarn o ran eu cefnogaeth i’r cytundeb ei hun, gan ddweud nad ydyn nhw am ei gefnogi.
Daw’r trafferthion hyn i’r Prif Weinidog wedi i’r Blaid Lafur awgrymu y byddan nhw’n cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth Prydain yr wythnos nesaf.
Ond mae llawer o’r Blaid Geidwadol yn teimlo na fydd pleidleisio yn erbyn y cytundeb yn rhoi’r Llywodraeth mewn peryg, yn dilyn yr addewid bod y DUP am aros yn ffyddlon wedi’r digwyddiad.
Mae’r ddadl ar y cytundeb wedi cyrraedd ei drydydd diwrnod heddiw, ac mae disgwyl i’r Canghellor, Philip Hammond, annerch Tŷ’r Cyffredin.