Mae Theresa May yn parhau i frwydro tros ei chytundeb Brexit ar ôl i Lywodraeth Prydain golli tair pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 4).

Wrth i’r siambr baratoi am ail ddiwrnod o ddadlau ar y cytundeb, fe ddaeth y newydd bod cyn-chwip y Blaid Geidwadol, Mark Haprer, yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.

Mae’r Aelod Seneddol, a bleidleisiodd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, yn dweud bod angen dychwelyd at y bwrdd trafod gan fod y cytundeb yn ei ffurf bresennol yn mynd i roi gwledydd Prydain mewn sefyllfa wael.

Daw ei sylwadau ar ôl diwrnod gwael i’r Llywodraeth  ddoe lle penderfynwyd rhoi’r hawl i Aelodau Seneddol gael rhoi eu barn ar beth fydd yn digwydd os na fydd y cytundeb yn cael ei gymeradwyo yn ystod pleidlais ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 11).

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cael ei gorfodi i gyhoeddi’n llawn fanylion y cyngor cyfreithiol a gafodd ynglŷn â Brexit, ar ôl i Aelodau Seneddol ddwyn achos o ddirmyg seneddol yn ei herbyn.

Mae disgwyl i weinidogion ymateb i hyn yn ystod y dydd heddiw.