Mae gweithiwr wedi cael ei ladd yn ffatri Jaguar Land Rover.

Mae heddlu Glannau Mersi a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad yn ffatri Halewood, Glannau Mersi.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ffatri gan barafeddygon yn fuan ar ol 8pm neithiwr. Roedd y dyn, oedd yn byw’n lleol ac yn ei 40au, yn cael triniaeth am anafiadau difrifol.

Cafodd ei gludo i ysbyty Whiston i gael triniaeth brys ond bu farw tua 10.30pm.

Dywedodd yr heddlu na chafodd unrhywun arall eu hanafu yn y ddamwain.

Fe gynhelir archwiliad post mortem i geisio darganfod sut y bu farw.