Mae gobeithion bod  arweinwyr gwledydd Ewrop yn ystyried ffyrdd newydd i fynd i’r afael  â’r argyfwng ariannol, wedi rhoi hwb i fuddsoddwyr heddiw.

Dros y penwythnos, dywedodd swyddogion Ewropeaidd bod yr Almaen a gwledydd cyfoethog eraill yr Undeb Ewropeaidd yn pwyso i gael strategaeth newydd i ddelio â’r argyfwng, sydd yn bygwth economiau mwy parth yr Ewro.

Roedd yna arwyddion bod cyfarfodydd o’r 20 gwlad gyfoethoca’ a Chronfa Ariannol y Byd – yr IMF – wedi dod i gytundeb ynglŷn â dyfodol Gwlad Groeg.

Y disgwyl yw y bydd y wlad yn cael caniatâd i ddileu tua hanner ei dyledion ac y bydd cronfa ganolog i helpu gwledydd bregus yn cael ei chryfhau.

Yn ôl un adroddiad, fe allai gwerth y pecyn cyfan fod cymaint â £2.6 triliwn, ac fe fydd rhai banciau hefyd yn cael chwistrelliad o arian i’w helpu i wynebu dyledion.

Dyw hi ddim yn glir a fydd y cynlluniau yn cael eu gweithredu ond mae’r ffaith eu bod nhw’n cael eu hystyried wedi rhoi hwb i farchnadoedd stoc yn Ewrop ar ôl wythnos o golledion dybryd.

Ond doedd yr optimistiaeth ddim wedi lledu i’r Ewro, sydd wedi dioddef yn sgil yr argyfwng ariannol a phryderon y gallai’r Ewro ei hun fod dan fygythiad. Roedd pris olew hefyd yn is, arwydd clir bod pryderon am yr economi byd eang yn parhau.